Drosodd i Ti: Dy Gynlluniau ac Ymchwil

Dim ar gyfer cyflwyno data yn unig yw pwrpas Deall Lleoedd Cymru. Mae’r wefan hefyd yn rhywle lle gall fudiadau lleol fel grwpiau cymunedol neu fentrau cymdeithasol a cynghorau trefol a chymunedol rhannu eu hymchwil eu hunain ac eu cynlluniau. Gallwn gyhoeddi’r wybodaeth yma pan maent yn cael ei danfon iddym ni. I weld yr holl restr o wybodaeth a chynlluniau, edrychwch islaw neu ewch i enw y lle.

Os hoffech rhannu cynllun lle, cynllun cymunedol neu ymchwil (ansoddol neu feintiol) am eich tref, pentref neu gymuned cliciwch yma i’w uwchlwytho. Neu os hoffech chi siarad am eich gwybodaeth cyn ei ddanfon, cysylltwch ȃ ni.

Help ac Adnoddau ar gyfer Cynlluniau Lleoedd, Cynlluniau Cymunedol ac Ymchwil Lleoedd

Ddim gyda cynllun lle neu gynllun cymunedol ond eisiau datblygu un? Neu ydych chi angen help llaw ynglyn a sut i gynllunio ymchwil yn eich hardal? Mae’r dolenni isod yn lle da i ddechrau.

  • Mae wefan Place Plans gyda canllawiau ac esiamplau i gymunedau a gweithwyr proffesiynol sydd ȃ diddordeb Cynllun Lle.
  • Mae PLANED yn sefyll am Pembrokeshire Local Action Network for Enterprise and Development. Mae’r elusen yn cefnogi cymunedau i wella ansawdd eu bywydau drwy ffocysu ar eu cyfleoedd ac i helpu nhw i gyrraedd eu dyheadau. Mae Action Planning PLANED yn helpu i gymunedau i adeiladu momentwm, cyrraedd consensws a gweithio am newid gyda’i gilydd. Gallwch ddarllen mwy a gweld esiamplau o Gynlluniau Gweithredu yma.
  • Mae [web address] yn ganllaw a fydd yn rhoi’r offer iddoch chi ddarganfod eich lle, adnabod beth sydd yn ei wneud yn unigryw ac i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Datblygwyd gan Comisiwn Dylunio Cymru.
  • Mae wefan [web address] Gwobrau Stryd Fawr Prydain yn cynnwys dolenni i amryw o adroddiadau ac adnoddau i’ch helpu chi i feddwl am eich stryd fawr. Mae’r [web address] ‘prawf personoliaeth’ yn le da i ddechrau.
  • Mae wefan CREW (Centre for Regeneration Excellence Wales) yn cynnwys amryw o adnoddau cynllunio yn cynnwys astudiaethau achos.

Darllen Cynlluniau Lle, Cynlluniau Cymunedol ac Ymchwil

Dyma lle fyddwn yn cyhoeddi y cynlluniau ac ymchwil y danfonwch i ni wrth i Deall Lleoedd Cymru ddatblygu